#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-845 Teitl y ddeiseb: Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol Testun y ddeiseb: Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru orfodi gwell bolisïau cod ymddygiad i gyflogeion awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, mae swyddogion awdurdod cynllunio yn cael rhedeg cwmnïau ymgynghori cynllunio preifat a chyflawni eu rolau cyhoeddus ar yr un pryd. Nid oes adnodd ar gael y gellir ei fuddsoddi er mwyn plismona’r cwmnïau preifat hyn, lle y’u datgenir yn y ffurflenni angenrheidiol, er atal twyll a llygredd A chymryd swyddogion cynllunio fel enghraifft, mae potensial y gallai rhedeg busnesau ymgynghori preifat ‘yn ddistaw bach’ hwyluso llygredd, gan fod llawer o fathau, yn gyffredinol yn ymwneud â chamddefnyddio swydd. Mae angen rhoi terfyn ar yr arfer hwn ar unwaith a rhaid diwygio’r cyfansoddiadau fel na cheir ymddwyn yn y modd hwn mwyach. Rydym yn galw am fwy o atebolrwydd a thryloywder gan ein hawdurdodau lleol, a rhaid pennu safonau ymddygiad mewn swyddogaethau cyhoeddus o’r fath a fyddai’n uwch na rhai’r sector preifat, lle mae hyn yn hynod annerbyniol. |
Y cefndir
Mae Adran 82(7) o Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn gwneud Cod Ymddygiad yn rhan o delerau penodi, neu amodau cyflogaeth, pob gweithiwr cymwys. Mae Adrannau 82(2) a 105(1) o Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion neu reoliadau ar y mater hwn.
Daeth Gorchymyn Cod Ymddygiad (Gweithwyr Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 i rym ym mis Gorffennaf 2001. Mae'r Atodlen sydd ynghlwm i'r Gorchymyn yn nodi'r egwyddorion allweddol o ran yr hyn a ddisgwylir gan weithwyr awdurdodau lleol yn eu hymddygiad o ddydd i ddydd. Mae atebolrwydd, buddiannau personol ac ymdrin â gwybodaeth yn cael eu cynnwys yn y Cod.
Swyddogion Monitro awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod Aelodau a gweithwyr yn cynnal y safonau ymddygiad uchaf wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Mae prif ddyletswyddau'r Swyddog Monitro wedi'u nodi isod. Mae sail gyfreithiol y Swyddogion Monitro i'w gweld yn Adran 5 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 5 i baragraff 24 Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Mae gan y Swyddog Monitro dair prif rôl:
Er mwyn sicrhau gwahanu rolau, ni chaiff y swyddog monitro gyflawni dyletswyddau'r Prif Swyddog Cyllid hefyd na dyletswyddau'r Cyfarwyddwr Cyllid.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Mae angen i swyddogion Awdurdodau Cynllunio Lleol, ynghyd â swyddogion eraill i gyd gadw at god ymddygiad eu hawdurdod. Nid yw hyn yn rhwystro iddynt rhag ymgymryd â gwaith yn eu maes y tu allan i faes o gyfrifoldeb eu hawdurdod, cyhyd ag y cofrestrir eu buddiannau preifat yn briodol yn unol â'r rheolau ac nid ydynt yn caniatáu i'w buddiannau preifat wrthdaro â'u dyletswydd gyhoeddus.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn tynnu sylw at y potensial i godi unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad anfoesegol gyda'r corff proffesiynol perthnasol, sef y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, yn yr achos hwn.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |